Jan 16, 2009

Welsh Music Industry Day - Caernarfon / Cynhadledd Diwydiant Cerddoriaeth Gymraeg - Caernarfon


CYNHADLEDD FLYNYDDOL Y DIWYDIANT CERDDORIAETH YN DYCHWELYD I GAERNARFON: HANFODOL I UNRHYW UN SY’N GYSYLLTIEDIG Â’R DIWYDIANT CERDDORIAETH YNG NGHYMRU



DYDD GWENER, IONAWR 23, 2009, 12.30PM – 5.30PM – GALERI, CAERNARFON



Yn dilyn eu poblogrwydd yn 2008, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig unwaith eto’n cynnal y Dyddiau Diwydiant Cerddoriaeth Gymraeg, a fwriadwyd i fynd i’r afael â materion allweddol sydd o bwys i ddiwydiant cerddoriaeth Gymraeg a thu hwnt.



Ar Ddydd Gwener, Ionawr 23, 2009, rhwng 12:30pm a 5.30pm, cynhelir cynhadledd Gogledd Cymru yn Galeri, Caernarfon. Bydd pedair sesiwn yn cael eu cynnal yn y prynhawn a bydd croeso i gynrychiolwyr ddewis a dethol i ba ddigwyddiadau y byddant yn mynd, neu aros i’r gynhadledd gyfan.



Mae’r pynciau fydd yn cael eu trafod yn cynnwys plygio cerddoriaeth i orsafoedd radio, brandio cerddoriaeth a marchnata a hyrwyddo digwyddiadau byw. Yn y prynhawn hefyd ceir sesiynau holi ac ateb – cyfle ardderchog i roi sylw i gwestiynau neu faterion unigol, a bydd hwn, wrth gwrs, yn gyfle rhagorol i gynrychiolwyr rwydweithio.



Ymhlith y panelwyr gwadd bydd Gill Taylor (Rheolwraig / Hyrwyddwr), Adam Walton (BBC Radio Wales), Gareth Iwan Jones (Cynhyrchydd, BBC Radio Cymru) a chynrychiolwyr o Dylunio Cymru, Creu Cymru a Cerdd Gymunedol Cymru, ac eraill.



Ceir rhestr lawn o’r digwyddiadau yn www.sefydliadcerddoriaethgymreig.com yn ogystal â manylion am yr ail gynhadledd, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 30 Ionawr 2009.



Cynhelir y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael.



Mae’r diwrnod yn DDI-DÂL, ond mae lleoedd yn gyfyngedig. I gofrestru, e-bostiwch: dai@welshmusicfoundation.com neu ffoniwch 029 20 494110



----

ANNUAL MUSIC INDUSTRY CONFERENCE RETURNS TO CAERNARFON : ESSENTIAL FOR ANYONE INVOLVED IN THE MUSIC INDUSTRY IN WALES



FRIDAY JANUARY 23, 2009, 12.30PM – 5.30PM - GALERI, CAERNARFON



Following their popularity in 2008, Welsh Music Foundation are once again hosting the Welsh Music Industry Days, designed to address the key issues that matter to the Welsh language music industry and beyond.



On Friday January 23 2009, between 12:30pm and 5.30pm, the north Wales conference will take place at Galeri, Caernarfon. Three sessions will run during of the afternoon and delegates are welcome to pick and choose, which they attend, or stay for the course of the conference.



Topics covered include plugging music to radio stations, music branding and the marketing and the promotion of live events. The afternoon will also feature Q&A segments – a great opportunity to have queries or individual issues addressed, and will of course serve as a great networking opportunity for delegates.



Guest panelists include Gill Taylor (Elvis Costello’s Manager), Adam Walton (BBC Radio Wales), Gareth Iwan Jones (Producer, BBC Radio Cymru) and representatives from Design Wales, Creu Cymru and Community Music Wales, amongst others.



A full event line-up can be found at www.welshmusicfoundation.com, as well as details of the second conference, held in Cardiff on 30 January 2009.



Sessions will be conducted in both the medium of English and Welsh language – translation facilities will be available.



The day is FREE to attend, but places are limited. To register, email: dai@welshmusicfoundation.com or phone 029 20 494110


No comments:

Post a Comment