Feb 23, 2012

St David's Day Launch - A Book Welsh Learners will Love and Grammarians will Hate










live welsh front cover detail, by heini gruffudd, published by y lolfa
On Saint David’s Day a new revolutionary Welsh language course will be launched that publishers Y Lolfa claims teaches “real spoken Welsh fast”.  It is claimed that Live Welsh by Heini Gruffudd offers a new and easy way to learn Welsh by bypassing grammar altogether. Heini Gruffudd, a prolific author and expert on language planning, explains, "The purpose of this book is to allow learners to learn the Welsh that is used by many ordinary Welsh speakers. The book does not dwell on the niceties of grammar, indeed it avoids or disregards them intentionally.”

He adds, “When speaking Welsh, many Welsh speakers don’t use verbs, use a lot of English words, change English words into Welsh ones and don’t mutate according to the rules.” According to the blurb learners should put in English words if they don’t remember the Welsh. There is also a handy list of 120 words that are similar to English. 

The book is arranged into twenty-to-thirty-minute parts, each part introducing new words, sentences and a conversation with explanatory sketches by Colin Baker. Lefi Gruffudd on behalf of Y Lolfa said,“There are numerous Welsh grammar and rules books on the market but this book will appeal to people without the time and patience to study grammar but who wish to learn enough Welsh for straightforward conversations  in the easiest possible way. Hopefully after completing this book learners will be able to use basic Welsh and then move on to improve their language skills through practice. The language has become a hot topic recently and we hope that publishing this book is a practical way of increasing the number of Welsh speakers.”

Live Welsh is priced at £6.95 and is available now on our website.


Gwerslyfr Chwyldroadol Heb Ramadeg


Ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd Y Lolfa yn cyhoeddi gwerslyfr newydd ar gyfer pobl sydd am ddysgu Cymraeg llafar. Mae’r Lolfa yn honni fod Live Welsh gan Heini Gruffudd yn cynnig dull hawdd o ddysgu Cymraeg pob dydd ac yn wahanol i bob gwerslyfr arall sydd ar y farchnad. Mae’r gyfrol yn osgoi gramadeg bron yn llwyr. Dywedodd Heini Gruffudd, sy’n awdur nifer o gyfrolau dysgu Cymraeg ac yn awdurdod ar gynllunio ieithyddol,

“Pwrpas y gyfrol yw caniatáu i ddysgwyr ddysgu’r Gymraeg sy’n cael ei siarad gan lawer o Gymry cyffredin. Dyw’r gyfrol ddim yn mynd i’r afael â manion gramadeg ond yn hytrach, yn eu hosgoi yn fwriadol.”

Ychwanegodd, “Wrth siarad Cymraeg mae’n duedd gan siaradwyr i beidio defnyddio berfau, i ddefnyddio nifer o eiriau Saesneg, addasu geiriau Saesneg ac i beidio treiglo yn ôl y rheolau.”

Mae’r gyfrol, sy’n cynnwys nifer o ddarluniau esboniadol, wedi ei rannu’n 42 gwers sydd yn eu tro yn cyflwyno geiriau a brawddegau newydd ac mae yna eirfa gynhwysfawr yn y cefn. Dywedodd Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa:

“Mae yna lyfrau rif y gwlith ar gyfer pobl sydd am ddysgu rheolau a gramadeg yr iaith. Bydd y gyfrol yn apelio at bobl sydd am ddysgu’r iaith yn y modd rhwyddaf posib, hef orfod mynd i’r afael â chymlethdodau gramadegol. Gobeithio y bydd dysgwyr ar ôl gorffen y llyfr yma yn mynd ati o ddifrif i siarad Cymraeg. Yn sgil y trafodaethau diweddar am dynged yr iaith mae cyhoeddi’r llyfr yma yn ffordd ymarferol i godi niferoedd y siaradwyr Cymraeg.”

Pris Live Welsh, sydd wedi cael ei ddylunio a’i ddarlunio gan Colin Baker, yw £6.95. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Gŵyl Dewi 2012.


 
Y Lolfa Cyf., Talybont, Ceredigion, Cymru SY24 5HE
ffôn 01970 831 902


www.ylolfa.com
c y h o e d d w y r  a c  a r g r a f f w y r